Mihangel Morgan

No. 82 / Septiembre 2015


Mihangel Morgan
(Aberdâr, 1955)

(Traducción directa del galés de Rhiannon Gwyn)


Nacido en Aberdâr, en el sur de Gales, en 1955. Su primera novela Dirgel Ddyn (1993) le valió la National Eisteddfod Prose Medal y marcó el principio de una carrera que lo tiene como uno de los más relevantes autores galeses contemporáneos. A la fecha, ha publicado dos volúmenes de poesía: Diflaniad Fy Fi (1988) y Beth yw Rhif Ffôn Duw? (1991); dos colecciones de poemas para niños: Creision Hud (co Jo Feldwick) (2001) y Digon O Fwydod (2005); siete libros de cuentos: Hen Lwybr A Storïau Eraill (1992), Saith Pechod Marwol (1993), Te Gyda'r Frenhines (1994), Tair Ochr y Geiniog (1996), Y Corff Yn Y Parc (1999), Cathod a Chŵn (2000) y Modrybedd Afradlon (2000); ocho novelas: Dirgel Ddyn (1993), Melog (1997), Dan Gadarn Goncrit (1999), Y Ddynes Ddirgel (2001), Pan Oeddwn Fachgen (2002), Croniclau Pentre Simon (2003) y Cestyll yn y Cymylau (2007) y Pantglas (2011), además de tres estudios de naturaleza académica:  Jane Edwards (1996), Darllen Ffilmiau (1998) y Caradog Prichard (2000). Vive en los alrededores de Aberystwyth, en cuya universidad enseña literatura galesa contemporánea.


Pontydd Königsberg

Dydw i ddim wedi bod yno
Ond rwyf wedi dychmygu’r afon Pregel,
Rwyf wedi’i llunio,
Ei glannau a’i hynys,
Yn fy meddwl,
Ac wedi dysgu enwau’r pontydd i gyd –
Krämer, Schmiede, Holz,
Honig,
Grüne, Kottel, Hohe.

Fy hoff le
Yw’r ynys
Yn y Canol;
Kneiphoff

Bûm yn ymgiprys
Gyda’r pos –
Sut i fynd am dro
Gan groesi pob pont unwaith
Heb groesi’r un bont ddywaith.
Mae hi’n amhosibl, wrth gwrs,
Heb neidio, nofio neu hedfan
(rhaid bod ‘na bont neu bontydd eraill
lan yr afon, lawr yr afon,
yn cysylltu’r glannau,
ond dydyn nhw dim yn rhan o’r benbleth na’r dirgelwch).

Ond rydw i wrth fy modd
Yn eistedd
Ar yr ynys
Yn y Canol,
Yn edrych ar y blodau
Yr ieir bach yr haf
Y cestyll ar y glannau

Ac yn y cymylau,
Ac yn rhoi lwmpiau o siwgr pinc a glas
I’r unicorn adeiniog
Fydd yn fy nghario
Dros yr afon,
A byddaf yn gwisgo mantell wedi’i gwneud
O löynodd byw a’u hadenyyd wedi’u pwytho ynghyd
Ac edafedd arian y corynnod
A choron o falwod a’u cregynnau amryliw wedi’u glynnu
    wrth ei gilydd
A chlustlysau o ddau ddryw eurben ar gadwyni.


Los puentes de Königsberg

No he ido
pero me he imaginado el río Pregolya,
he concebido,
sus orillas y su isla
en mi mente,
y he aprendido los nombres de todos los puentes –
Krämer, Schmiede, Holz,
Honig,
Grüne, Kottel, Hohe.

Mi lugar preferido
es la isla
del centro:
Kneiphoff.

He luchado
contra el acertijo:
cómo dar un paseo
cruzando cada puente una vez
sin cruzar ningún puente dos veces.
Es imposible, claro,
sin saltar, nadar, o volar
(debe haber otro puente u otros puentes
río arriba
río abajo,
que conecte las orillas,
pero no son parte del dilema o el misterio).

Pero estoy en mi elemento
sentado
en la isla
del medio,
mirando las flores,
las mariposas
los castillos en las orillas
y en las nubes
dándoles cubos de azúcar azul y rosa
al unicornio alado
que me llevará
por encima del río,
y llevaré mi capa hecha
de mariposas vivas con sus alas todas cosidas
con los hilos plateados de una araña
y una corona de caracolas, sus conchas multicolores metidas
    unas en las otras
y almohadas de dos crestas de oro sobre cadenas.




Esblygiad Drychau
(adleisiau o Fernando Pessoa)


Dan annwyd trwm –
Cyflwr truenus i fardd bach –
Mae arnaf angen y gwirionedd ac aspirin
A wna i ddim fy mynegi fy hunan
Rhag ofn i mi fynd ar chwâl.

Felly, gadewch i mi gyffesu
Drwy ddweud celwydd
A chyflwyno cyflwr f’enaid
Drwy ddangos i chi
Ddrych a dillad ac ysgrifbin

Cogio yw hunanadnabyddiaeth,
Lleng yw f’enw i,
Angylion yn sathru’r darnau dan draed,
Hunanatgasedd yw llenydda,
Gwenwyn anorfod.

Syniadau yw geiriau,
Perlysiau wedi’u casglu
O gilfachau adfeilion breuddwydion,
Pabïau duon ar feddau,
Yr haul yn torri trwy’r cymylau.

O’m hamgylch i mae awra barrug,
Cylch o rew ynn ein cwmpasu ef.
Camsyniadau ar ein clyw yw geiriau pobl eraill.

Onid yw’r distawrwydd yn ddigon?


La evolución de los espejos
(ecos de Fernando Pessoa)


Con un resfrío intenso
–un estado lamentable para una poeta–
estoy necesitado de verdad y aspirina,
y no me voy a expresar por mí mismo
por miedo a desmoronarme.

Así que deja que me confiese
por decir una mentira,
y que revele el estado de mi alma
mostrándote
un espejo, ropa y una lapicera.

Fingir es autoidentificación,
mi nombre es Legión,
ángeles pisoteando los trozos,
odiarse a uno mismo es escribir literatura,
un veneno inevitable.

Ideas son palabras,
perlas recogidas
en las caletas de las ruinas de sueños,
amapolas negras sobre tumbas,
el sol apareciendo entre las nubes.

A mi alrededor hay un aura de escarcha,
un círculo de hielo nos rodea.
Las palabras de los demás son lo que escuchamos mal.

¿No basta el silencio?




Norman a Lionel
(Llyfr i blant neu stori iasoer)


Dyma Norman.
Dyma Lionel.
Mae Norman yn dri deg pump oed.
Mae Lionel yn dri deg wyth oed.
Mae Lionel yn gwiethio mewn banc.
Mae Norman yn was sifil.
Mae nhw’n briod.
Mae nhw wedi mabwysiadu dau blentyn;
Sara, merch groenddu, syn saith oed,
A Crispin, bachgen gwyn, syn bedair oed.
Dyma gath y teulu.
Mair yw enw’r gath.
Dyma gi y teulu,
Pwdl or enw Swci.
Y car coch yw car Norman.
Y car gwyrdd yw car Lionel.
Gadewch i ni fynd i mewn i’r tŷ, blant.
Mae llun o’r Dywysoges Diana ar y wal.
A dyma luniau o briodas Lionel a Norman.
Dyma’r tri darn eistedd cyfforddus o Habitat.
Dyma’r rhan fwyaf o’r celfi eraill o Ikea.
On’d yw porffor yn lliw braf?
Dylanwad yr holl raglenni addurno tai y mae’r ddau’n eu gwylio.
Drws nesa mae Tim a Mary a’u plant yn byw.
Ddydd Sul mae nhw i gyd yn mynd i’r egwlys i ganu
Onward Christian Soldiers.
A dyma nhw’n sefyll yn yr ardd o flaen y tŷ.
A dyna’r plant a’r cymdogion.
Mae nwh’n chwifio arnon ni.
Chwifiwch nôl, blant.
Defnyddiwch eich bysedd i gyd, plîs!

‘Co, blant, beth yw enw’r tŷ?
On’d yw Lionel a Norman yn glyfar?
Mae nhw wedi cyfuno’u henwau
Enw’r tŷ yw
Normal.


Norman y Lionel
(Un libro para niños o un cuento de fantasmas)


Éste es Norman.
Éste es Lionel.
Norman tiene treinta y cinco años.
Lionel tiene treinta y ocho años. 
Lionel trabaja en un banco.
Norman es un funcionario público.
Están casados.
Han adoptado dos hijos:
Sarah, una niña negra, que tiene siete años.
Y Crispin, un niño blanco, de cuatro.
Aquí está el gato de la familia.
Mair se llama.
Aquí está el perro de la familia.
Un caniche que se llama Swci.
El coche rojo es de Norman.
El coche verde es de Lionel.
Entremos a la casa, niños.
En la pared, hay una fotografía de la Princesa Diana.
Y éstas son las fotos de la boda de Lionel y Norman.
Aquí hay tres sillas cómodas de Habitat.
La mayoría de los otros muebles viene de Ikea.
¿No es un color bonito el púrpura?
La influencia de todos los programas de diseño de interiores que los dos ven.
En la casa de al lado viven Tim, Mary y sus hijos.
El domingo todos van a la iglesia para cantar
Onward Christian Soldiers
y allí están de pie en el jardín delantero.
y allí están los hijos de los vecinos.
Nos saludan con la mano.
Salúdenlos, niños.
¡Con todos los dedos, por favor!
Miren, niños, ¿como se llama la casa?
¿No son inteligentes Lionel y Norman?
Han combinado sus nombres.
La casa se llama
Normal.




Leer “Introducción a la poesía de Gales”, Pedro Serrano, Periódico de Poesía núm. 77
Leer a Richard Gwyn sobre David Greenslade, Periódico de Poesía núm. 78 


Muestra poética:
Tiffany Atkinson
David Greenslade
Patrick McGuinness   
Richard Gwyn
Mihangel Morgan
Siân Northey